#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-886 Teitl y ddeiseb: Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494) Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru i dynnu ei chefnogaeth yn ôl
i'r "Llwybr Coch" (Gwella Coridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548)
am y rhesymau a ganlyn: |
Y cefndir
Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru ac mae'n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith, gan gynnwys yr A55, yr A494 a'r A548.
Yn ei chynllun A55/A494/A548: Coridor Glannau Dyfrdwy, bwriad Llywodraeth Cymru yw “gwella’r amser teithio a diogelwch rhwng yr Afon Dyfrdwy a Chyfnewidfa Llaneurgain”.
Cynllun A55/A494/A548: Coridor Glannau Dyfrdwy
Ym mis Mawrth 2017, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar welliannau i'r A55/A494/A548: coridor Glannau Dyfrdwy. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl ar ddau opsiwn gwahanol ar gyfer y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd:
§ Opsiwn glas i gynnwys lledu'r A55/A494 a chau cyffyrdd neu eu haddasu a'u gwella; ac
§ Opsiwn coch i gynnwys cynyddu capasiti ar yr A548 bresennol a ffordd newydd rhwng yr A55 a'r A548.
Yn ogystal â'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn, asesodd Llywodraeth Cymru’r opsiynau yn unol â'r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).
Ym mis Medi 2017, yn y Cyfarfod Llawn, cyhoeddoedd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth bryd hynny (Gweinidog erbyn hyn), y llwybr a ffafriwyd ar gyfer ei fabwysiadu yn dilyn yr ymgynghoriad a'r arfarniad WelTAG, sef yr opsiwn coch.
Yr opsiwn coch
Fel yr amlinellwyd, mae'r opsiwn coch yn cynnwys adeiladu ffordd newydd. Mae'r cynllun yn cynnwys:
§ Ffordd ddeuol 13km newydd â dwy lôn a fydd yn cysylltu yr A55-A5119 yng nghyffordd Llaneurgain (Cyffordd 33) â'r A494 a'r A550 i'r gogledd i Gyffordd Parkway Glannau Dyfrdwy; a
§ Chynyddu'r capasiti'r A548 bresennol, gan gynnwys addasiadau a gwelliannau i gyffyrdd a darparu rhan newydd o ffordd rhwng yr A548 a'r A55.
Fel y soniwyd yn y cyfryngau, y llwybr coch yw'r opsiwn a ffafrir gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint, ond mae trigolion lleol wedi mynegi pryderon ynghylch y llwybr.
Cynllun pont Afon Dyfrdwy
Mae'r deisebydd yn cyfeirio at gynlluniau ar gyfer pont Afon Dyfrdwy ar yr A494. Cynllun priffyrdd ar wahân yw hwn; mae Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau i newid y bont bresennol.
Cynhaliwyd arfarniad WelTAG o'r gwahanol opsiynau ar gyfer y cynllun hwn a nodwyd opsiwn a ffafrir. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar yr opsiwn hwn rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Chwefror 2019. Mae ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Metro gogledd-ddwyrain Cymru
Wrth gyhoeddi mai'r llwybr coch oedd y dewis opsiwn ar gyfer cynllun coridor yr A55/A494/A548, cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd at y cynllun yng nghyd-destun nifer o fentrau trafnidiaeth ychwanegol i'r ardal. Roedd y rhain yn cynnwys cyllid ar gyfer creu llwybrau teithio llesol a fydd yn cyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru.
Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Metro gogledd-ddwyrain Cymru: symud gogledd Cymru ymlaen. Mae'r llyfryn yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer y prosiect a rhestrir prosiectau a oedd yn cael eu datblygu, gan gynnwys cynlluniau rheilffyrdd a chynlluniau trafnidiaeth integredig. Cyfeiriwyd at nifer o gynlluniau priffyrdd, gan gynnwys cynllun yr A55/A494/A548: coridor Glannau Dyfrdwy a chynllun pont Afon Dyfrdwy ar yr A494.
Camau Llywodraeth Cymru
Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dyddiedig 6 Mehefin 2019, mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn ymdrin â sawl un o'r pwyntiau a godwyd gan y deisebydd.
Mae'r Gweinidog yn pwysleisio:
Er bod yr Opsiwn Coch yn croesi... [c]oetir hynafol, dewiswyd lleoliad y groesfan lle y mae modd gosod traphont dros y dyffryn hynod serth er mwyn effeithio cyn lleied â phosibl ar y cwrs dŵr a'r llystyfiant...Byddai'r gwaith o liniaru'r effeithiau niweidiol yn cynnwys plannu coetir newydd mewn ardaloedd mawr sydd wedi'u targedu i ddisodli neu wella sgrinio yn yr hirdymor.
Mae'r Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at yr arolygon traffig a'r gwaith modelu a ddefnyddiwyd i bennu effaith yr opsiwn coch a'r opsiwn glas, yn ogystal â'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ynghylch y cynllun. Yn ogystal â'r cynllun priffyrdd penodol hwn, amlinellir mentrau eraill y mae'r Gweinidog yn awgrymu y byddant yn cyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru.
Mae'r deisebydd yn codi pryderon ynghylch newid hinsawdd. Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd. Tynnodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, sylw hefyd at yr effeithiau andwyol ar yr amgylchedd wrth iddo gyhoeddi ei benderfyniad ym mis Mehefin 2019 i beidio â bwrw ymlaen â'r cynllun arfaethedig ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
Camau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ei ymateb i gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd yn 2017 mai'r opsiwn coch a gâi ei fabwysiadu fel y llwybr a ffafrir, cyfeiriodd Mark Isherwood AC at gynllun pont Afon Dyfrdwy a gofynnodd:
Yn yr ymgynghoriad, rydych chi'n disgrifio hwnnw fel cynllun ar wahân, ond a allwch chi gadarnhau, fel y gwn i sy’n wir, bod y llwybr coch yn dibynnu ar hynny, a chadarnhau sut y bydd y ddau yn gweithio ar yr un pryd i sicrhau y gall y cynllun cyfan gyflawni fel y’i bwriadwyd?
Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd:
Er y bydd y gwaith hwnnw'n digwydd ochr yn ochr â gwaith ar y llwybr coch, ni fydd yn dibynnu arnom ni yn dilyn y llwybr coch. Mae’n rhaid i'r gwaith hwnnw ddigwydd waeth beth sy’n digwydd gyda phrosiect coridor Glannau Dyfrdwy.
Yn ei hymateb hithau i'r cyhoeddiad, dywedodd Michelle Brown AC:
Ymddengys i mi y byddai’r llwybr glas yn ddewis gwell. Rwy'n gwybod y byddai wedi achosi llawer o aflonyddwch yn ardal Glannau Dyfrdwy tra ei fod yn cael ei adeiladu, ond yr hyn sy'n fy mhryderu i am y llwybr coch yw, nad ydy’ch chi mewn gwirionedd yn gwneud dim mwy na symud y dagfa ymhellach i'r gorllewin.
Gofynnodd Hannah Blythyn AC i'r Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd sut y câi'r nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 eu defnyddio i asesu effaith amgylcheddol y llwybr coch. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd ei fod yn:
hyderus, trwy ein cynllun arweiniol ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, y byddwn yn gallu sicrhau y cydymffurfir â Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Rwy'n credu, hyd yn hyn, bod y broses yr ydym ni wedi ei dilyn wir wedi cydnabod y ffyrdd o weithio mae’r Ddeddf yn eu hyrwyddo.
Ym mis Rhagfyr 2018, cyflwynodd Darren Millar AC gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn pa gamau yr oedd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr A494. Yn ei ymateb, rhoddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd y wybodaeth ddiweddaraf am gynllun yr A55/A494/A548: coridor Glannau Dyfrdwy gan nodi bod Llywodraeth Cymru:
…currently in the process of procuring an employer’s agent. This will be followed by the procurement of a contractor and designer who will develop the preferred route in more detail before progressing through the statutory procedures and onto construction.
Ar 12 Mehefin 2019, yn y Cyfarfod Llawn, cyfeiriodd Russell George AC at benderfyniad y Prif Weinidog, yn rhannol ar sail amgylcheddol, i beidio â bwrw ymlaen â'r cynllun arfaethedig ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd. Gofynnodd i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a fyddai'r:
penderfyniad hwn yn bwrw amheuaeth ar gynlluniau trafnidiaeth eraill yng Nghymru, megis cynllun coridor Glannau Dyfrdwy... A yw'r penderfyniad hwn gan y Prif Weinidog yn arwydd o newid sylfaenol i bolisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar sail amgylcheddol?
Atebodd y Gweinidog:
Credaf fod yr Aelod yn gywir i nodi nifer o gynlluniau y byddai llawer yn ofni y cânt eu colli os gwelir bod hyn yn gosod cynsail. Nid yw hynny'n wir. Bydd y rhaglenni hynny i gyd yn mynd rhagddynt… bydd gwaith ar yr A494/A55, yn parhau yr haf hwn gyda gwaith modelu pellach a gwaith ar yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru ac ymgynghoriadau a chyfarfodydd pellach gyda rhanddeiliaid lleol.